Amdanom Ni

Fe’i sefydlwyd ym Mangor ym 1980, yn wreiddiol fel busnes hamdden gan yr athro Bioleg Môr Osmond “Ozzy” Fearon Philips, oedd yn meddu ar synnwyr anarferol am glaredau Petit Chateau o safon.

Prynwyd y busnes yn 1983 gan Peter a Cynthia Hebden, a’i datblygodd yn fusnes Cyfanwerthu Gwin o ddifrif gyda chymorth Mike Vick, cyn Westywr a Restaurateur, fel Cyfarwyddwr Gwerthu.

Ym 1991, gwelodd Joseph Keegan a’i Feibion Ltd y cyfle i atodi Masnachwr Gwin arbenigol i’w gweithredoedd, a phenodwyd Mike Vick i arwain y datblygiad.

Gyda chyrhaeddiad Restaurateur llwyddiannus arall, Martin Vowell, yn 2003 mae’r cwmni wedi ei sefydlu yn gadarn fel un o’r prif Fasnachwyr Gwin Rhanbarthol yn cyflenwi yn bell dros 200 o dafarndai bwyd da, gwestai a bwytai ar draws Gogledd Cymru.

Mae’r 26 mlynedd o brofiad rhyngddynt ym myd Bwytai yn rhoi synergedd i Mike a Martin â’u cwsmeriaid, ac fel y dywed Mike, gallent roi eu hunain mewn esgidiau Restaurateur a gofyn y cwestiwn pwysig, “Beth hoffwn i’m Masnachwr Gwin ei wneud i mi?”

Er mai arbenigo yn y Diwydiant Arlwyo yn bennaf mae James Fearon Wines, nid yw hyn wedi eu hatal rhag casglu cylch o Gwsmeriaid Preifat sy’n chwilio am rywbeth gwahanol, y darganfyddiad hwnnw efallai nad ydyw i’w ganfod ar silffoedd undonog yr archfarchnadoedd.

Felly, beth all James Fearon Wines ei wneud i chi…?