Beth y Gallwn Ni Wneud i Chi

Felly beth allwn ni yn James Fearon Wines wneud i chi, Gwestai, Bwytai, Bariau Gwin, Bistros, Caffis, Bariau a Thafarndai Gogledd Cymru?

  • Byddwn yn blasu’r gwinoedd gyda chi a’ch helpu i gynllunio eich rhestr win.
  • Byddwn yn argraffu eich rhestr win i chi. Mae pob math o ddyluniadau a gosodiadau gennym i ddewis ohonynt ac mae gennym gyfleuster lliw llawn.
  • Gallwn ddarparu hyfforddiant staff i fagu diddordeb a hyder eich tîm wrth werthu gwin.
  • Byddwn yn eich ffonio bob wythnos i gael eich archeb, i’ch arbed rhag anghofio
  • Byddwn yn danfon eich gwin bob wythnos o’r flwyddyn.
  • Gallwn gyflenwi gwin i chi ar sail gwerthu neu ddychwelyd ar gyfer digwyddiad arbennig neu barti priodas, a darparu gwydrau gwin i’w benthyg yn rhad ac am ddim i gyd-fynd â’ch archeb.

I grynhoi, mae James Fearon Wines yn cynnig gwasanaeth cyfeillgar yn gweithio gyda’n cwsmeriaid ac amdanynt.

“Gadewch i ni fod yn adran win i chi”